Y RHWYDWAITH
BETH YW FIBRESPEED
BETH YW FIBRESPEED

Ehangwch eich busnes i Ogledd Cymru a chymryd mantais o rwydwaith modern hynod gyflym a fydd yn eich galluogi i ymestyn eich cyrhaeddiad ar brisiau cyfanwerthol cystadleuol.

CYSYLLTWCH EICH BUSNES
CYSYLLTWCH EICH BUSNES

Cysylltwch â FibreSpeed a thrawsnewid eich busnes

RHESTRI TERMAU
RHESTRI TERMAU
Excelsior Technologies
Fibrespeed Case study Excelsior Technologies
Carlton North West
Fibrespeed Case Study Carlton North West
Anchor Computers
Fibrespeed Case Study Anchor Computers
COFRESTRWCH YMA
Ariennir ar y cyd gan:
Datganiad Gweithredol

Datganiad Gweithredol

Diolch am ymweld â gwefan FibreSpeed.

Mae busnes FibreSpeed yn grŵp Geo yn ganlyniad cydweithredu unigryw rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Geo, prif fusnes rhwydwaith ffibrau dynodedig y Deyrnas Unedig. 

Mae gwreiddiau’r busnes yn awydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi mewn isadeiledd cyfathrebu newydd er mwyn rhoi Cymru wrth galon economi’r Deyrnas Unedig. Cafodd prosiect FibreSpeed ei lunio er mwyn ffurfio rhwydwaith ffibrau optig newydd gyda’r gorau yn y byd, gan ddechrau yng Ngogledd Cymru, ac yna cyflenwi gwasanaethau i’r farchnad gan ddefnyddio’r model rhwydweithio “mynediad agored” lle mai’r amcan yw gwneud y defnydd gorau o’r isadeiledd – nid cyfyngu’r mynediad i un cwmni a chadw prisiau’n uchel.  

Dyma lle camodd Geo i mewn. Gan ei fod eisoes wedi lansio rhwydweithiau mynediad agored yn genedlaethol yn y Deyrnas Unedig a, gan ddefnyddio’r rhwydwaith garthffosiaeth, yn Llundain, mae Geo’n deall beth sydd ei angen i baratoi’r fath fusnes ar gyfer y farchnad.

Y canlyniad yw FibreSpeed: cwmni sy’n gwerthu dim ond i ddarparwyr gwasanaeth y diwydiant cyfathrebu ar brisiau y gellir eu cymharu â rhannau mwyaf cystadleuol y Deyrnas Unedig, gan ddod ag arloesiad a rhagoriaeth gwasanaeth fforddiadwy i fusnesau Cymru. Mae’r gwasanaethau yma’n amrywio o ffibrau optig dynodedig a chydleoli hyd at wasanaethau sefydlog a diwifr wedi eu rheoli. 

Rwy’n gweld y busnes newydd arloesol a phwysig hwn yn un hynod gyffrous ac yn ei weld hefyd yn parhau i ychwanegu gwerth sylweddol i economi Cymru yn y blynyddoedd i ddod.

 

 

Chris Smedley
Prif Weithredwr