Y RHWYDWAITH
BETH YW FIBRESPEED
BETH YW FIBRESPEED

Ehangwch eich busnes i Ogledd Cymru a chymryd mantais o rwydwaith modern hynod gyflym a fydd yn eich galluogi i ymestyn eich cyrhaeddiad ar brisiau cyfanwerthol cystadleuol.

CYSYLLTWCH EICH BUSNES
CYSYLLTWCH EICH BUSNES

Cysylltwch â FibreSpeed a thrawsnewid eich busnes

RHESTRI TERMAU
RHESTRI TERMAU
Excelsior Technologies
Fibrespeed Case study Excelsior Technologies
Carlton North West
Fibrespeed Case Study Carlton North West
Anchor Computers
Fibrespeed Case Study Anchor Computers
COFRESTRWCH YMA
Ariennir ar y cyd gan:
Ynghylch

Ynghylch FibreSpeed

Mae FibreSpeed yn golygu arloesedd a thrawsnewid.

Mae'n darparu rhwydwaith ffeibr optig perfformiad uchel unigryw I Ogledd Cymru a fydd yn chwyldroi rhagolygon economaidd y rhanbarth.

Dechreuodd rhan gyntaf y prosiect, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, fis Tachwedd 2007.

Mae'r prif gontractwr, Geo, wedi adeiladu rhwydwaith a fydd yn darparu gwasanaethau cyfathrebu o'r radd flaenaf i fusnesau Cymru. Bydd y gwasanaeth llawn yn cael ei lansio yn gynnar yn 2009.

Mae'r rhwydwaith yn cysylltu parciau busnes strategol yng Ngogledd Cymru. Ond, ar ôl ei ymestyn dros Gymru gyfan, gallai'r rhwydwaith gynnwys tua 50 o leoliadau.

Bydd yn rhoi seilwaith telegyfathrebu cadarn i Gymru ac yn cefnogi rhai amcanion economaidd uchelgeisiol.

Bydd yn gwneud hynny drwy ddosbarthu gwasanaethau band eang o'r radd flaenaf dros rwydwaith mynediad agored.

Dim ond cyfanwerthu y bydd FibreSpeed. Bydd hynny'n galluogi darparwyr gwasanaeth, Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd a chwmnïau telegyfathrebu sy'n gwasanaethu'r farchnad yng Nghymru i fân-werthu gwasanaethau cyfathrebu hynod o gyflym a band llydan iawn i fusnesau a defnyddwyr. Bydd prisiau'n debyg i rai ym mannau mwyaf trefol y Deyrnas Unedig.

Daeth y cyllid ar gyfer FibreSpeed ar y cyd oddi wrth Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewropeaidd, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Geo. Mae'r bartneriaeth gyhoeddus - preifat arloesol hon yn gosod meincnod ar gyfer prosiectau ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn y dyfodol.



Latest Articles
Q&A afternoon
12.12.2008
Q&A afternoon
Chris Smedly
09.12.2008
Chris Smedly