Gyrfaoedd
Mae FibreSpeed yn dîm sy'n gweithio'n galed, yn broffesiynol ac yn gyfeillgar. Mae ei ddiwylliant yn anffurfiol ond yn canolbwyntio ar y cwsmer sy'n golygu fod ei weithwyr yn cael eu hannog i wneud eu gorau.
Cwmni newydd ei sefydlu yw FibreSpeed. Mae'n rhan o grŵp Geo ond yn mwynhau manteision ethos cwmni bychan. Mae cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi. Mae yna ysbryd tîm cryf.
Os ydych yn uchelgeisiol, yn benderfynol, ac yn gallu uniaethu â diwylliant FibreSpeed o ragoriaeth, edrychwch am ein swyddi gwag. Os nad oes un yma i chi ar hyn o bryd, e-bostiwch eich manylion atom yn careers@fibrespeed.co.uk a byddwn yn eich hysbysu pan fydd swydd wag perthnasol yn codi.
Cofiwch nad ydym yn derbyn CVau asiantaeth nad ydynt yn PSL, ac nac ydym yn dymuno i asiantaethau osod manylion ymgeiswyr ar ein safle swyddi nac anfon e-byst uniongyrchol at ein staff .



