Ymgynghorwyr FibreSpeed
Mae Ymgynghorwyr FibreSpeed yn cynnig gwasanaethau fel rhan o’u darpariaeth ehangach ond drwy bartneriaid Darparwyr Gwasanaeth Rhyngrwyd. Nid yw’r Ymgynghorwyr yn cynnig cysylltedd uniongyrchol nac yn cyfanbrynu FibreSpeed. Nid yw’r Ymgynghorwyr chwaith yn gallu cynnig prisiau cyfanbrynu.
Carrier Wales
Mae Integrated Digital Services Ltd (IDS) yn gwmni cyfathrebu Cenedlaethol sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 22 aelod o staff. Rydyn ni’n gwmni ardystiedig llawn ISO9001-2000.
Mae gennym gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ym mhob agwedd o gyfathrebu llais, data a chyfathrebu symudol. Mae’n sail o gwmnïau’n amrywio o fusnesau bychain sydd â safle sengl i fyny at gorfforaethau mawr gyda nifer o safleoedd, lle rydyn ni’n cynnig atebion i bob agwedd o’u hanghenion cyfathrebu busnes. Mae’r wybodaeth a’r profiad yma’n galluogi Carrier Wales i gyflenwi a chynnal a chadw’n lleol yr atebion sydd wedi eu llunio i ateb gofynion penodol cleient oddi fewn i’r Dywysogaeth a’r tu hwnt.
Cysylltedd
Carrier Wales yw’r Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd cyntaf i ymrwymo i rwydwaith Fibre Speed ac fe fyddwn yn darparu cysylltedd trwy holl Bwyntiau Presenoldeb Fibre Speed.
Rydyn ni wedi ymrwymo nid yn unig i gysylltu Gogledd Cymru trwy’r rhwydwaith ffibrau cyflym, ond hefyd i ddarparu atebion fydd yn helpu busnesau i dyfu. Isod ceir ychydig o enghreifftiau o atebion y gallwn eu cynnig ar lefel y cludydd.
- Cysylltedd Rhyngrwyd Uniongyrchol wedi ei Gyflenwi gan Rwydwaith Fibre Speed. Y Lled Band i ateb eich gofynion, 10mb i 1000mb yn safonol.
- Cyswllt Ether-rwyd 100mb Safle i Safle ar draws rhwydwaith Fibrespeed
- Atebion Gweithiol i ac o Gymru.
- Atebion porth Rhwydwaith Preifat Rhithwir / Haen Socedi Diogel
- Cynadledda Fideo ar y Rhwyd a’r tu hwnt
- Teledu Cylch Cyfyng IP - storio a hygyrchedd canolog
- Ateb Cysylltedd Canolfan Fusnes
- Atebion Rhyngrwyd a Chynadledda Gwestai
- Ansawdd Gwasanaeth dros Gyflymder Ffibrau
- Diogelwch wedi ei reoli gyda sawl safle’n cael ei rheoli ar un pwynt mynediad
- Hidlo Cynnwys Spam ar lefel rhwydwaith.
- Microsoft Exchange ar lein ar lefel Rhwydwaith.
- Costau llai
- Dim costau rheoli
- Dim caledwedd
- Dim angen hyfforddiant na chymorth
Mae Carrier Wales yn ddarparwr sydd â’r hyblygrwydd i gynllunio, adeiladu a rheoli’ch gofynion rhwydwaith o’r dechrau i’r diwedd. Rydyn ni’n eich galluogi i adeiladu’r hyn rydych ei eisiau, nid yr hyn GAIFF EI ROI I CHI.
Adnoddau cyd-leoli
Mae rhwydwaith FibreSpeed yn terfynu yng nghraidd rhwydwaith Carrier Wales, felly nid yn unig y gallwn ni gynnig atebion cysylltedd ond gallwch hefyd gael mynediad i’n cyfleusterau a’n hatebion rhwydwaith craidd. Mae gan Carrier Wales adnodd cyd-leoli sy’n cynnig y canlynol:
- Man lletya rac dynodedig gyda neu heb gysylltedd Lefel 1
- Atebion ategol
- Atebion adfer wedi trychineb yn eich man rac eich hunan
- Eich gweinyddwyr rhithwir eich hunan
- Muriau Gwarchod wedi eu rheoli neu Ddarparu a rheoli rhai’ch hunan
- Rheoli Pŵer o bell ym mhob caban
- Monitro amgylcheddol un-pwrpas
- Gwasanaethau Llais IP lletyol
- Lle rac diogel fesul rac gyfan neu rannol
Advanced Information Systems Ltd
Mae Advanced Information Systems Ltd (AIS) yn darparu atebion TGCh diogel, integredig a gwasanaethau wedi eu rheoli ar gyfer mentrau a sefydliadau sector cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop. Mae’r cynghreiriau strategol yn cynnwys nifer o gwmnïau TGCh mwyaf blaenllaw’r byd, er enghraifft: Cisco, Cryptocard, Fortinet, HP, IBM, Microsoft a VMware.
Netserve Consultants Ltd
Mae Netserve Consultants yn arbenigo mewn darparu mynediad Rhyngrwyd, ADSL/SDSL, trawstaith BGP llawn a rhannol, gweinydd un-pwrpas, cydleoli wedi ei reoli (Y We / E-bost / Llais / Clystyrau), muriau gwarchod a chysylltau pwynt i bwynt.



