Y RHWYDWAITH
BETH YW FIBRESPEED
BETH YW FIBRESPEED

Ehangwch eich busnes i Ogledd Cymru a chymryd mantais o rwydwaith modern hynod gyflym a fydd yn eich galluogi i ymestyn eich cyrhaeddiad ar brisiau cyfanwerthol cystadleuol.

CYSYLLTWCH EICH BUSNES
CYSYLLTWCH EICH BUSNES

Cysylltwch â FibreSpeed a thrawsnewid eich busnes

RHESTRI TERMAU
RHESTRI TERMAU
Excelsior Technologies
Fibrespeed Case study Excelsior Technologies
Carlton North West
Fibrespeed Case Study Carlton North West
Anchor Computers
Fibrespeed Case Study Anchor Computers
COFRESTRWCH YMA
Ariennir ar y cyd gan:
Hysbysiadau Cyfreithiol

Hysbysiadau Cyfreithiol

Amodau Defnydd

Mae’r dudalen hon yn egluro amodau defnyddio’n gwefan, www.fibrespeed.co.uk. Trwy ddefnyddio’n gwefan rydych yn cytuno â’r amodau defnydd yma ac rydych yn cytuno i gydymffurfio â nhw. Os nad ydych yn cytuno, peidiwch â defnyddio’n gwefan. 

Mae unrhyw gyfeiriad at "FibreSpeed" yn y telerau ac amodau canlynol yn golygu “FibreSpeed Networks Limited”, sydd wedi ei gofrestru yng Nghymru a Lloegr dan y rhif cwmni  6340164, gyda’i swyddfa gofrestredig yn Hutchison House, 5 Hester Road, Llundain SW11 4AN ac mae’n cynnwys 100% o’r is-gwmnïau mae’n berchen arnyn nhw.

Ein Hatebolrwydd

Oni bai fel y nodir isod:

  • Dyw FibreSpeed ddim yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw golledion sydd o ganlyniad i, neu sy’n codi mewn cysylltiad â’r defnydd o’r wefan hon neu’r dogfennau gaiff eu cynnwys yn y wefan hon neu y cyfeirir atyn nhw ynddi, gan gynnwys, ond nid wedi ei gyfyngu i, colli incwm, colli neu  lygru data, colli elw, colli ewyllys da, colled arbennig nac am unrhyw golled neu niwed arall o unrhyw fath, sut bynnag y’u hachoswyd ac a’u hachoswyd gan gamwedd (gan gynnwys esgeulustod), tor-cytundeb neu unrhyw fodd arall, hyd yn oed pe gellid ei ragweld; 
  • Er bod FibreSpeed yn ceisio cywirdeb a dibynadwyaeth yng nghyd-destun ein gwefan, dylech nodi bod cynnwys ein gwefan yn cael ei ddarparu ar sail “fel ag y mae”. Ni ddylech gymryd yn ganiataol bod y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gywir, yn gynhwysfawr, wedi ei wirio, yn gyfan, yn ddiwall neu’n addas ar gyfer y defnydd sydd gennych ar ei chyfer;
  • Dyw FibreSpeed ddim yn gyfrifol am gysondeb, diogelwch nac addasrwydd ar gyfer pwrpas unrhyw gynnwys y byddwch yn ei gyrchu neu’n ei ddefnyddio ar y wefan hon. Dylech fodloni’ch hunan o  gysondeb, diogelwch neu addasrwydd ar gyfer pwrpas unrhyw gynnwys y byddwch yn ei gyrchu neu’n ei ddefnyddio ar y wefan hon a bod hynny’n gyson â’r defnydd penodol sydd gennych ar ei chyfer;
  • Dyw FibreSpeed ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys unrhyw wefan y byddwch yn ei chyrraedd trwy ein gwefan a dyw FireSpeed ddim o reidrwydd yn cefnogi safbwyntiau gaiff eu mynegi, nag ag unrhyw reolaeth dros argaeledd tudalennau cysylltiedig neu wefannau a gyrhaeddir trwy’n gwefan. 
  • Does dim yn y termau yma sy’n dileu neu’n cyfyngu ar ein hatebolrwydd am dwyll, am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu am unrhyw atebolrwydd na ellir ei gyfyngu neu ei ddileu trwy gyfraith berthnasol.

 

Awdurdodaeth a’r gyfraith

Oni nodir yn wahanol, mae’r nwyddau a’r gwasanaethau a ddisgrifir ar y wefan hon ar gael i breswylwyr y Deyrnas Unedig yn unig (ac eithrio Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) a dyw’r wybodaeth ar y wefan hon ddim wedi ei anelu at unrhyw un arall. Bydd y telerau ac amodau yma’n cael eu rheoli gan ac yn cael eu dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. 

Gwybodaeth amdanoch chi a’ch ymweliadau â’n gwefan

Rydyn ni’n prosesu gwybodaeth amdanoch chi’n unol â’n polisi preifatrwydd. Trwy ddefnyddio’n gwefan, rydych chi’n cytuno i brosesu o’r fath ac rydych chi’n gwarantu bod yr holl ddata a ddarperir gennych chi’n gywir.

Newidiadau i’r telerau

Fe allwn ni newid y telerau a’r amodau yma unrhyw amser trwy roi’r newidiadau ar y wefan. Dylech adolygu’r telerau yma’n rheolaidd er mwyn sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw newidiadau y byddwn yn eu gwneud. Trwy ddal i  ddefnyddio’r wefan ar ôl y fath newid rydych yn cytuno â’r telerau a’r amodau diwygiedig.

Hawlfraint

FibreSpeed piau hawlfraint cynnwys y wefan hon. Ni ellir atgynhyrchu na phriodoli cynnwys y wefan mewn unrhyw fodd heb ganiatâd ysgrifenedig FibreSpeed.

Nodau Masnach

Mae’r lluniau, logos ac enwau ar y wefan hon sy’n dynodi FireSpeed yn nodau sy’n eiddo i FireSpeed. Cedwir pob hawl.

Firysau,  Hacio a throseddau eraill

Ni ddylech gamddefnyddio’n gwefan trwy gyflwyno’n fwriadol firysau, trojan, mwydod, bomiau rhesymeg nac unrhyw ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Ni ddylech geisio mynediad  heb awdurdod i’n gwefan, y gweinyddwr mae’n gwefan wedi ei storio nac unrhyw weinyddwr, gyfrifiadur neu ddata-bas sy’n gysylltiedig â’n gwefan. Trwy dorri rheolau’r ddarpariaeth yma fe fyddech yn torri’r gyfraith dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990.  

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu niwed a chosir gan firws neu unrhyw ddefnydd technolegol niweidiol arall a allai lygru’ch cyfarpar cyfrifiadurol, rhaglenni cyfrifiadurol, data neu unrhyw ddeunydd priodol arall o ganlyniad i’ch defnydd chi o’n safle oherwydd i chi lwytho i lawr unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni neu unrhyw wefan cysylltiedig â hi.

Toradwyedd

Os na ellir gorfodi’n gyfreithiol unrhyw ran o’r telerau ac amodau yma, ni fydd hyn yn effeithio ar y pŵer i orfodi’n gyfreithiol y telerau ac amodau eraill.