Rhwydwaith Cyfathrebu Hynod Gyflm FibreSpeed Yn Fyw Yng Ngogledd Cymru
Cyrhaeddodd cyfathrebu digidol hynod gyflym Ogledd Cymru wrth lansio Fibrespeed, prosiect £30 miliwn a gyllidwyd yn unigryw i ddod â manteision technoleg ffeibr optig i fusnesau ac unigolion am y tro cyntaf.
Bydd y rhanbarth yn gallu cystadlu gyda Llundain a de-ddwyrain Lloegr gyda dewis o gyfathrebiadau hynod gyflym, lled band rhyngrwyd eang fforddiadwy, diolch i ffeibr optig 200 milltir sy’n cysylltu trefi a pharciau busnes gyda rhwydwaith hynod gyflym Lloegr.
Lansiwyd Fibrespeed yn swyddogol gan y Dirprwy Brif Weinidog Ieuan Wyn Jones (Tachwedd 27) yn Technium CAST, Parc Menai, Bangor – un o’r mannau strategol a ddewiswyd i fod ymysg y cyntaf i fanteisio ar y gwasanaeth newydd sy’n dechrau yn y Gwanwyn 2009.
Canmolodd Mr Jones lwyddiant y bartneriaeth rhwng menter breifat a Llywodraeth Cynulliad Cymru – y prosiect cyntaf o’i fath yn y DU – sydd wedi creu Fibrespeed.
Meddai, wrth siarad yn y lansiad: “Mae hyn yn enghraifft berffaith o’r Llywodraeth a’r sector breifat yn cydweithio er budd gwirioneddol economi Cymru. Ni allai’r Llywodraeth fod wedi gwireddu’r weledigaeth hon ar ei phen ei hunan – dim ond drwy bartneriaeth y gellid gwneud hynny.
Mi wn i, ar ôl siarad gyda busnesau ledled y wlad, mai un o’r pethau y maen nhw ei angen fwyaf o bartneriaethau fel hyn yw cysylltedd band eang ardderchog. Wrth ymateb i’r alwad honno, rydym yn dathlu cam enfawr ymlaen gyda Fibrespeed”.
Bydd ei lansio'n nodi rhan gyntaf rhaglen hir dymor Llywodraeth y Cynulliad i ddarparu gwasanaethau lled band hynod gyflym ledled Cymru. O’r blaen, roedd gwasanaethau hynod gyflym yn costio hyd at chwe gwaith yn fwy yng Ngogledd Cymru nag yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr, gan rwystro busnesau dyfu ac arloesi.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n amcangyfrif y gallai buddion economaidd net FibreSpeed ledled gogledd Cymru arwain at gynnydd o hyd at £29 miliwn y flwyddyn yn y Gwerth Gros Ychwanegol am bob un o’r deg mlynedd nesaf.
Meddai Chris Smedley, Prif Weithredwr Fibrespeed: Heb rwydweithiau ffeibr optig, all economïau ddim esblygu. Nhw yw ffyrdd a rheilffyrdd yr unfed ganrif ar hugain a thu hwnt. Mae Fibrespeed yn hwb i dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu sy’n galluogi arloesi a chynnig gwasanaethau newydd i gwsmeriaid a defnyddwyr pen draw. Mae’n hyrwyddo busnes ac yn annog buddsoddi mewnol i Ogledd Cymru.
Ond nid busnesau a defnyddwyr gartref fydd yr unig rai i fod ar eu hennill gyda Fibrespeed. Mae’n gyfle i arbenigwyr cyfathrebu werthu cynnyrch a gwasanaethau yn seiliedig ar gynhwysedd a chyflymder mawr y rhwydwaith ffeibr optig. Yn barod, mae 12 darparydd gwasanaeth wedi ymuno ac yn barod i werthu gwasanaethau i ddefnyddwyr pen draw.
Bydd y darparwyr gwasanaeth hyn hefyd yn gallu ymestyn y rhwydwaith fel y gall busnesau a defnyddwyr gartref sydd ger - ond nid ar - y llwybr ffeibr optig gysylltu iddo.
Dywedodd Mr Jones mai dim ond y cam cyntaf yn unig oedd creu rhwydwaith Fibrespeed a bod yn rhaid i fusnesau yn awr gofleidio’r dechnoleg sydd ar gael iddyn nhw.
Ychwanegodd: “Rydym eisiau i fusnesau a chymunedau yma yng Ngogledd Cymru weithio gyda ni a chyda’r darparwyr gwasanaeth oherwydd mae’n rhaid i ni ddal i wella.
Rwy’n hyderus, drwy weithio gyda’n gilydd, y gall y Llywodraeth a busnesau wella perfformiad yr economi yma yng Ngogledd Cymru er budd pawb ac er mwyn cynyddu’r ffyniant a ddaw yn sgil hynny.
YNGHYLCH FIBRESPEED
Fibrespeed Cyf sy’n gweithredu’r rhwydwaith mynediad agored a fydd yn dod â gwasanaethau cyfathrebu hynod gyflym a fforddiadwy i fusnesau ledled Gogledd Cymru. Mae hyn drwy rwydwaith 320 cilometr o gebl ffeibr optig yn cysylltu Caergybi ym Môn, Caernarfon yng Ngwynedd ac ar hyd coridor Gogledd Cymru i lawr i Wrecsam ac yn cysylltu gydag asgwrn cefn ffeibr y DU ym Manceinion.
Bydd Fibrespeed yn ysgogi twf economaidd ac yn annog menter yn y rhanbarth drwy alluogi busnesau Gogledd Cymru i fanteisio ar seilwaith cyfathrebu mwyaf modern y Deyrnas Unedig. Bydd hefyd yn creu marchnad newydd, fywiog, i ddarparwyr gwasanaeth a fydd yn galluogi mân-werthwyr i gynnig gwasanaethau llais a data fforddiadwy am y tro cyntaf yn y rhanbarth drwy ddefnyddio seilwaith Fibrespeed.
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.fibrespeed.co.uk



