Y RHWYDWAITH
BETH YW FIBRESPEED
BETH YW FIBRESPEED

Ehangwch eich busnes i Ogledd Cymru a chymryd mantais o rwydwaith modern hynod gyflym a fydd yn eich galluogi i ymestyn eich cyrhaeddiad ar brisiau cyfanwerthol cystadleuol.

CYSYLLTWCH EICH BUSNES
CYSYLLTWCH EICH BUSNES

Cysylltwch â FibreSpeed a thrawsnewid eich busnes

RHESTRI TERMAU
RHESTRI TERMAU
Excelsior Technologies
Fibrespeed Case study Excelsior Technologies
Carlton North West
Fibrespeed Case Study Carlton North West
Anchor Computers
Fibrespeed Case Study Anchor Computers
COFRESTRWCH YMA
Ariennir ar y cyd gan:

Cwsmer cyntaf cyswllt cysylltiadau hynod gyflym newydd – Rhwydwaith cysylltiadau hynod gyflym newydd ar draws Gogledd Cymru yn denu’i gwsmer cyntaf.

Fibrewales ym Mharc Busnes Llanelwy yw’r busnes cyntaf i gysylltu i gebl £30 miliwn FibreSpeed. Bydd yn darparu gwasanaethau cyswllt a chefnogaeth ar gyfer sefydliadau eraill sydd eisiau cysylltu â’r grym a’r hyblygrwydd enfawr sy’n cael ei gynnig gan y rhwydwaith.

Os bydd digon yn manteisio arno, bydd Fibrewales yn ehangu ac yn cyflogi rhagor o staff.

Fibrewales yw enw masnachu Internet Engineering Limited sydd hefyd yn gweithredu busnes Darparydd Gwasanaeth Rhyngrwyd o’r enw Hosting UK, gyda chwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.

Mae’r costau is y cyswllt hynod gyflym yn ei alluogi i gynyddu elw tra'n darparu rhychwant ehangach o wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid presennol a chyflwyno gwasanaethau newydd i sefydliadau ar draws Gogledd Cymru.

Mae rhwydwaith ffibr opteg 200 milltir FibreSpeed yn rhyng-gysylltu â rhwydweithiau hynod gyflym eraill ac yn rhedeg mor bell â Chaergybi trwy 13 o barciau busnes allweddol ar draws Gogledd Cymru. Mae busnesau y tu allan i’r parciau hyn hefyd yn gallu cysylltu drwy ddefnyddio cylchoedd mynediad lleol i’w cysylltu â rhwydwaith FibreSpeed.

Meddai Phil Parry Cyfarwyddwr Rheoli Fibrewales: “Mae FibreSpeed yn gyffrous iawn oherwydd bod ganddo gymaint o botensial.

“Mae gan Ogledd Cymru gysylltiadau cludiant gwych gyda’r A55, ond tan heddiw roedd ei seilwaith cyfathrebu ymhell ar ôl llawer o’r Deyrnas Unedig.

“Mae hynny wedi bod yn anfantais i fusnesau presennol a chwmnïau a oedd yn dymuno ail leoli i’r ardal.

“Gyda dyfodiad FibreSpeed, nid dyna’r achos mwyach.

“Rydym wedi ymestyn ein rhwydwaith yn y DU yn ystod 2007 a 2008, gan gysylltu ein canolfannau data yn Llundain a Manceinion. Gyda FibreSpeed rydym erbyn hyn yn gallu ymestyn ein rhwydwaith ar draws Gogledd Cymru.

“Yn fy marn i mae’r rhwydwaith newydd nid yn unig yn ein rhoi ar yr un lefel ag ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig ond mewn rhai achosion yn ein rhoi ar y blaen. Mae’n anodd gweld unrhyw resymau pam na ddylai busnes buddsoddi yma.

“Dyma ble daw Fribrewales i’r adwy, byddwn ymysg y darparwyr gwasanaeth cyntaf i gynnig a chefnogi gwasanaethau i fusnesau.”

Mae rhwydwaith FibreSpeed yn ben llanw partneriaeth rhwng menter breifat a Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Meddai Ieuan Wyn Jones Dirprwy Brif Weinidog:  “FibreSpeed yw'r rhaglen gyntaf o'i fath yn y DU - sydd yn cefnogi arloesedd, menter a buddsoddiad mewnol ar adeg pan rydym yn wynebu her economaidd enfawr. Mae’n dangos unwaith eto effaith bositif ein rheolaeth o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd.

“Rwy’n falch iawn o groesawi’n cysylltiad busnes gyntaf – ac yn edrych ymlaen at lawer mwy", meddai Mr Jones, sy’n Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n amcangyfrif y gallai buddion economaidd net FibreSpeed ledled gogledd Cymru arwain at gynnydd o hyd at £29 miliwn y flwyddyn yn y Gwerth Gros Ychwanegol am bob un o’r deg mlynedd nesaf.

Mae Mr Parry’n honni y bydd sefydliadau Gogledd Cymru sy’n prydlesu llinellau ar gyfer y rhyngrwyd, trosglwyddo data a’r ffôn ar hyn o bryd, yn arbed miloedd o bunnoedd y flwyddyn drwy gysylltiad ffibr opteg.

Meddai: “Mi wn fod sefydliadau gyda llinell 2 megabit ar brydles i Warrington ac i Lerpwl yn gallu talu rhywbeth fel £24,000 y flwyddyn.

“Drwy ddefnyddio’r rhwydwaith newydd gallwn ddarparu gwasanaeth Rhyngrwyd dynodedig o 100mbs am £17,000 - arbediad o £7,000 a’r fantais o wasanaeth rhyngrwyd dynodedig llawer cyflymach a mwy o led band y gellir darparu gwasanaethau ychwanegol drosti.