Y RHWYDWAITH
BETH YW FIBRESPEED
BETH YW FIBRESPEED

Ehangwch eich busnes i Ogledd Cymru a chymryd mantais o rwydwaith modern hynod gyflym a fydd yn eich galluogi i ymestyn eich cyrhaeddiad ar brisiau cyfanwerthol cystadleuol.

CYSYLLTWCH EICH BUSNES
CYSYLLTWCH EICH BUSNES

Cysylltwch â FibreSpeed a thrawsnewid eich busnes

RHESTRI TERMAU
RHESTRI TERMAU
Excelsior Technologies
Fibrespeed Case study Excelsior Technologies
Carlton North West
Fibrespeed Case Study Carlton North West
Anchor Computers
Fibrespeed Case Study Anchor Computers
COFRESTRWCH YMA
Ariennir ar y cyd gan:

Byddwch yn Fwy Cystadleuol Gyda FibreSpeed

Pam ddylai fy musnes fod â diddordeb mewn FibreSpeed?

Yr ateb byr yw: gallwch arbed llawer o arian, dod yn fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol.

Beth yn union yw FibreSpeed?

Rwydwaith cysylltiadau optig ffibr. Cafodd ei ddylunio ar gyfer busnesau a sefydliadau ac mae’n cludo’r holl ddata mae’ch llinellau band eang presennol yn ei gludo, megis y rhyngrwyd, e-bost, trosglwyddo data, ffôn rhyngrwyd os ydych yn ei ddefnyddio. Mae’n anadl einioes rhyngoch chi a’ch cwsmeriaid, eich cyflenwyr a’ch lleoliadau busnes eraill.  Efallai bod eich busnes cyfan yn seiliedig ar dechnoleg rhyngrwyd.

Sut mae FibreSpeed yn wahanol i fand eang?

Yr hyn sydd gennych ar hyn o bryd yw band eang ADSL. Mae’ch cysylltiad wedi’i rannu gydag eraill, sy’n golygu y daw’n gynyddol arafach ac annibynadwy po fwyaf o bobl sy’n ei ddefnyddio. Os ydych yn lwcus cewch gyflymder llawr lwytho o hyd at 10 megabit, ond yn bendant bydd eich cyflymder llwytho fyny’n llawer arafach. Efallai eich bod yn prydlesu llinell gostus ac yn talu amdani, fesul milltir, yr holl ffordd i Warrington neu Lerpwl.

Felly beth yw manteision FibreSpeed?

Mae’n gyflymach: Oherwydd ei fod yn defnyddio rhwydwaith optig ffibr dynodedig, mae FibreSpeed yn rhoi cyflymder llawr lwytho sy’n dechrau ar 10 megabit. Mae FibreSpeed yn gallu darparu cyflymder o hyd at 1 gigabit (1,000 megabit) a mwy. Ac yn annhebyg i ADSL, mae’r cyflymder llwytho fyny’n union yr un fath â’r cyflymder llawr lwytho.

Mae’n cynnig mwy o led band: sydd, i’w roi yn syml, yn golygu ei fod yn gallu cario nifer o wasanaethau'r un pryd - ni fydd data wrth gefn yn arafu’ch mynediad i’r rhyngrwyd, er enghraifft.

Mae’n fwy dibynadwy: Mae’n rhwydwaith a gafodd ei adeiladu ar gyfer trosglwyddo data. Nid yw’n arafu wrth rannu gydag eraill ac mae’n ymlaen pob amser - mae cylchoedd ADSL yn cael eu hail osod o dro i dro.

Mae’n gost effeithiol: Pam talu i brydlesu llinell i Loegr pan fo rhwydwaith cyflym yn rhedeg heibio’ch drws? Gall FibreSpeed arbed miloedd o bunnoedd i chi’n flynyddol o gymharu â’r gost o brydlesu llinell.

Sut y bydd y rhwydwaith cyflymach, mwy dibynadwy hwn o gymorth i’m busnes?

Mae trosglwyddo data’n gyflymach yn arbed amser ac yn eich gwneud yn fwy cynhyrchiol. Mae rhwydwaith cyflymach, lled band uchel yn llwyfan perffaith ar gyfer protocol llais dros y rhyngrwyd (VOIP) - galwadau ffôn dros y rhyngrwyd. Does dim rhaid talu rhent llinell ffôn ac mae costau galwadau’n sylweddol llai neu hyd yn oed am ddim. Mae’n fwy dibynadwy oherwydd cafodd ‘gwytnwch’ – cyswllt wrth gefn rhag ofn iddo fethu – ei gynnwys yn ei ddyluniad. Mae’r manteision o gael gwell dibynadwyedd a llai o gostau gweithredu’n amlwg. Yn fyr, gall FibreSpeed wneud eich busnes yn fwy cystadleuol.

Lle yn union mae rhwydwaith FibreSpeed?

Mae’r rhwydwaith yn cysylltu parciau busnes ar draws Gogledd Cymru at asgwrn cefn optig ffibr presennol y DU ym Manceinion. Cyn FibreSpeed, yr unig le yng Nghymru gyda mynediad uniongyrchol i’r rhwydwaith yma oedd y De-ddwyrain.

Dydw i ddim ar barc busnes. Ddylwn i stopio darllen?

Ddim o gwbl. Mae’n bosibl cysylltu â’r rhwydwaith hyd yn oed os ydych nifer o filltiroedd neu fwy i ffwrdd oddi wrtho. Byddwch yn dal i gael manteision llawn FibreSpeed.

Pwy sy’n gweithredu FibreSpeed?

Mae rhwydwaith FibreSpeed yn ben llanw partneriaeth rhwng menter breifat a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n cael ei redeg gan FibreSpeed Ltd, sy’n cynnig mynediad cyfanwerthu agored i ddarparwyr gwasanaeth  - busnesau unigol sy’n darparu cysylltiad rhwydwaith arbenigol a gwasanaethau rheoli. Mae hyn wedi creu marchnad gystadleuol am y gwasanaethau hyn, felly mae’r defnyddiwr yn y pendraw yn cael gwerth gorau am arian.

Sut alla i gysylltu neu ganfod rhagor?

Gan y darparwyr gwasanaethau y cewch holl wybodaeth rydych ei angen a nhw all eich cysylltu’n gyflym a diffwdan. Os ydych eisiau i’ch cysylltiadau rhwydwaith gael eu rheoli’n llwyr, neu os ydych ond eisiau rhai gwasanaethau’n unig, gall y darparwyr eich helpu. I ganfod pwy ydynt ewch at www.fibrespeed.co.uk

Hoffwn weld cyflwyniad gyntaf

Cyn bo hir bydd un yn agos atoch chi! Gydol 2009, mae FibreSpeed yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar draws y rhanbarth ble gallwch ddysgu'r cyfan am y dechnoleg, sut mae'n gallu eich helpu chi a sut i gysylltu. Gweler www.fibrespeed.co.uk

 

Am wybodaeth e-bost enquiries@fibrespeed.co.uk neu ffoniwch 0844 225 2190