Y RHWYDWAITH
BETH YW FIBRESPEED
BETH YW FIBRESPEED

Ehangwch eich busnes i Ogledd Cymru a chymryd mantais o rwydwaith modern hynod gyflym a fydd yn eich galluogi i ymestyn eich cyrhaeddiad ar brisiau cyfanwerthol cystadleuol.

CYSYLLTWCH EICH BUSNES
CYSYLLTWCH EICH BUSNES

Cysylltwch â FibreSpeed a thrawsnewid eich busnes

RHESTRI TERMAU
RHESTRI TERMAU
Excelsior Technologies
Fibrespeed Case study Excelsior Technologies
Carlton North West
Fibrespeed Case Study Carlton North West
Anchor Computers
Fibrespeed Case Study Anchor Computers
COFRESTRWCH YMA
Ariennir ar y cyd gan:
Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn (ynghyd â’n telerau defnyddio) yn egluro sut y mae FibreSpeed Cyf (“FibreSpeed”) yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei roi i FibreSpeed wrth ddefnyddio’r wefan hon. Gall y cyfeiriadau at “ein” neu “ni” yn y polisi preifatrwydd yma hefyd gynnwys is-gwmnïau FibreSpeed.

Mae FibreSpeed wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth arbennig y gellir eich adnabod oddi wrtho wrth ddefnyddio’r wefan hon, gallwch fod yn sicr na chaiff ei ddefnyddio mewn unrhyw fodd oni bai ei fod yn unol â’r datganiad preifatrwydd yma.

Gall FibreSpeed newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech fwrw golwg ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd i wneud yn siŵr eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau. Daeth y polisi hwn i rym ar 30 Gorffennaf 2008. 

Yr hyn rydyn ni’n ei gasglu 

Gallwn gasglu’r wybodaeth ganlynol:

  • enw a theitl swydd
  • gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • gwybodaeth ddemograffig megis côd post,  dewisiadau a diddordebau
  • gwybodaeth arall perthnasol i arolygon cwsmeriaid ac/neu gynigion 
  • manylion o’ch ymweliadau â’n gwefan.

 

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud â’r wybodaeth gaiff ei gasglu

Rydyn ni angen y wybodaeth yma i ddeall eich anghenion ac i ddarparu gwasanaeth gwell i chi, ac yn benodol am y rhesymau canlynol: 

Gallwn ddefnyddio’r wybodaeth yma i wella’n nwyddau a’n gwasanaethau.
Yn achlysurol gallwn anfon e-bost hyrwyddo atoch ynglŷn â nwyddau newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall y byddwn yn tybio a fyddai o fudd i chi gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost y byddwch wedi ei roi, lle rydych yn caniatáu i ni gysylltu â chi ar gyfer hynny. 
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi i bwrpas ymchwil y farchnad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost, ffôn, ffacs neu bost.
Efallai y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yma i addasu’r wefan yn ôl eich diddordebau. 
Cadw cofnodion mewnol.


Diogelwch

Rydyn wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad heb ei awdurdodi rydyn ni wedi sefydlu gweithdrefnau corfforol ac electronig i amddiffyn ac i ddiogelu’r wybodaeth rydyn ni’n ei gasglu ar-lein. 


Casglu a defnyddio gwybodaeth dechnegol 

Efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth am eich defnydd cyffredinol o’r rhyngrwyd trwy ddefnyddio ffeil cwcis gaiff ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth gaiff ei drosglwyddo i yriant caled eich cyfrifiadur. Maen nhw’n ein helpu gwella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell a mwy personol. Maen nhw hefyd yn ein galluogi i gadw gwybodaeth ynghylch eich dewisiadau, er mwyn cyflymu’ch chwiliadau a’ch adnabod pan fyddwch yn dod nôl i’n safle.  

Gallwch wrthod derbyn cwcis trwy weithredu’r gosodiad ar eich porwr sy’n eich galluogi i wrthod gosod cwcis. Ond, os byddwch yn dewis y gosodiad hwn efallai na fyddwch yn gallu mynd i rai rhannau o’n gwefan. Oni bai eich bod wedi addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis, bydd ein system yn gosod cwcis pan fyddwch yn ymweld â’n gwefan. 

Dolennau i wefannau eraill

Gall ein gwefan gynnwys cysylltau i’ch galluogi i ymweld yn hawdd â gwefannau eraill o ddiddordeb. Ond unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolennau hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym ni unrhyw reolaeth dros unrhyw wefan arall. Felly, allwn ni ddim bod yn gyfrifol am warchod nag am breifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei roi tra’n ymweld â’r fath safleoedd a dyw’r fath safleoedd ddim yn cael eu rheoli gan y datganiad yma o breifatrwydd. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw. 

Rheoli’ch gwybodaeth bersonol 

Gallwch ddewis rheoli casglu neu’r defnydd o’ch manylion personol fel a ganlyn:

  • Pan ofynnir i chi lenwi ffurflen ar wefan, edrychwch am y blwch y gallwch ei glicio i ddynodi eich bod yn fodlon derbyn gwybodaeth i bwrpas marchnata uniongyrchol 
  • Os ydych chi wedi cytuno o’r blaen y gallwn ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol i bwrpas marchnata uniongyrchol, gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd trwy ysgrifennu aton ni:  FibreSpeed, Hutchison House, 5 Hester Road, Llundain W11 4AN, wedi ei farcio i sylw Calypso Harland, Pennaeth Marchnata, neu’n e-bostio ni: enquiries@fibrespeed.co.uk  

 

Fyddwn ni ddim yn gwerthu, rhannu neu brydlesu’ch gwybodaeth bersonol i drydydd parti oni bai ein bod wedi cael eich caniatâd fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Gallwch ofyn am fanylion y wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei gadw amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fechan yn daladwy. Os hoffech gopi o’r wybodaeth gaiff ei gadw amdanoch ysgrifennwch at  FibreSpeed, Hutchison House, 5 Hester Road, Llundain SW11 4AN, wedi ei nodi at sylw’r Cwnsler Cyffredinol. 

Os ydych chi’n credu bod unrhyw wybodaeth rydyn ni’n ei gadw’n anghywir neu’n anghyflawn, ysgrifennwch aton ni neu e-bostiwch ni gynted ag y bo modd i’r cyfeiriad uchod. Fe fyddwn yn cywiro ar ei union unrhyw wybodaeth gaiff ei ystyried yn anghywir.