Carrier Wales

Mae Integrated Digital Services Ltd (IDS) yn gwmni cyfathrebu Cenedlaethol sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 22 aelod o staff. Rydyn ni’n gwmni ardystiedig llawn ISO9001-2000.
Mae gennym gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ym mhob agwedd o gyfathrebu llais, data a chyfathrebu symudol. Mae’n sail o gwmnïau’n amrywio o fusnesau bychain sydd â safle sengl i fyny at gorfforaethau mawr gyda nifer o safleoedd, lle rydyn ni’n cynnig atebion i bob agwedd o’u hanghenion cyfathrebu busnes. Mae’r wybodaeth a’r profiad yma’n galluogi Carrier Wales i gyflenwi a chynnal a chadw’n lleol yr atebion sydd wedi eu llunio i ateb gofynion penodol cleient oddi fewn i’r Dywysogaeth a’r tu hwnt.
Cysylltedd
Carrier Wales yw’r Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd cyntaf i ymrwymo i rwydwaith Fibre Speed ac fe fyddwn yn darparu cysylltedd trwy holl Bwyntiau Presenoldeb Fibre Speed.
Rydyn ni wedi ymrwymo nid yn unig i gysylltu Gogledd Cymru trwy’r rhwydwaith ffibrau cyflym, ond hefyd i ddarparu atebion fydd yn helpu busnesau i dyfu. Isod ceir ychydig o enghreifftiau o atebion y gallwn eu cynnig ar lefel y cludydd.
- Cysylltedd Rhyngrwyd Uniongyrchol wedi ei Gyflenwi gan Rwydwaith Fibre Speed. Y Lled Band i ateb eich gofynion, 10mb i 1000mb yn safonol.
- Cyswllt Ether-rwyd 100mb Safle i Safle ar draws rhwydwaith Fibrespeed
- Atebion Gweithiol i ac o Gymru.
- Atebion porth Rhwydwaith Preifat Rhithwir / Haen Socedi Diogel
- Cynadledda Fideo ar y Rhwyd a’r tu hwnt
- Teledu Cylch Cyfyng IP - storio a hygyrchedd canolog
- Ateb Cysylltedd Canolfan Fusnes
- Atebion Rhyngrwyd a Chynadledda Gwestai
- Ansawdd Gwasanaeth dros Gyflymder Ffibrau
- Diogelwch wedi ei reoli gyda sawl safle’n cael ei rheoli ar un pwynt mynediad
- Hidlo Cynnwys Spam ar lefel rhwydwaith.
- Microsoft Exchange ar lein ar lefel Rhwydwaith.
- o Costau llai
- o Dim costau rheoli
- o Dim caledwedd
- o Dim angen hyfforddiant na chymorth
Mae Carrier Wales yn ddarparwr sydd â’r hyblygrwydd i gynllunio, adeiladu a rheoli’ch gofynion rhwydwaith o’r dechrau i’r diwedd. Rydyn ni’n eich galluogi i adeiladu’r hyn rydych ei eisiau, nid yr hyn GAIFF EI ROI I CHI.
Adnoddau cyd-leoli
Mae rhwydwaith FibreSpeed yn terfynu yng nghraidd rhwydwaith Carrier Wales, felly nid yn unig y gallwn ni gynnig atebion cysylltedd ond gallwch hefyd gael mynediad i’n cyfleusterau a’n hatebion rhwydwaith craidd. Mae gan Carrier Wales adnodd cyd-leoli sy’n cynnig y canlynol:
- Man lletya rac dynodedig gyda neu heb gysylltedd Lefel 1
- Atebion ategol
- Atebion adfer wedi trychineb yn eich man rac eich hunan
- Eich gweinyddwyr rhithwir eich hunan
- Muriau Gwarchod wedi eu rheoli neu Ddarparu a rheoli rhai’ch hunan
- Rheoli Pŵer o bell ym mhob caban
- Monitro amgylcheddol un-pwrpas
- Gwasanaethau Llais IP lletyol
- Lle rac diogel fesul rac gyfan neu rannol



