Beth yw FibreSpeed?
Mae FibreSpeed yn darparu gwasanaethau Rhyngrwyd a thelathrebu hynod gyflym a mwyaf diweddar. Mae'n rhwydwaith optig ffibr cyflym sydd gyda'r gorau yn y byd, wedi'i ddylunio'n arbennig i nerthu pobl a busnesau. Bydd cyswllt FibreSpeed yn newid y ffordd rydych yn gweithio ac yn trawsnewid eich busnes trwy ddefnyddio TG, e-fusnes a thelathrebu yn arloesol. Dewch am sgwrs â ni heddiw a gweld sut y gallai FibreSpeed a'i Ddarparwyr Gwasanaeth gyfarfod â'ch anghenion chi.
- Y manteision i'ch busnes
- Defnyddiau busnes ar gyfer FibreSpeed
Onid band eang cyflym yw hwn?
Nage. Mae band eang cyffredin yn dal i ddefnyddio'r gwifrau copr a gafodd eu gosod ar gyfer ffonau ac mae hynny'n cyfyngu ar eu perfformiad. Mae FibreSpeed yn defnyddio technoleg optig ffibr sydd wedi'i ddylunio'n bwrpasol i gario llawer iawn o ddata yn agos at gyflymder goleuni. Mae yna ddau wahaniaeth hanfodol arall. Gyda FibreSpeed, gallwch lwytho i fyny'r un mor gyflym ag y gallwch lawr lwytho. Mae unrhyw un sy'n trosglwyddo llawer iawn o ddata'n gwybod fod band eang cyffredin yn cael trafferth i wneud hynny. Oni bai eich bod yn prydlesu llinell benodol, mae band eang yn cael ei rannu gyda llawer o fusnesau eraill. Mae'n arafu gyda llawer o ddefnydd. Mae FibreSpeed yn rhoi cysylltiad dynodedig i chi, yn cynnig lled band uchel iawn (cyflymder) sydd ar eich cyfer chi'n unig. Felly mae'r perfformiad yn llawer iawn gwell.
Felly, beth mae hynny'n ei olygu?
Mae'n golygu y gallwch ddefnyddio'r Rhyngrwyd neu rwydwaith data busnes neu delathrebu preifat i drawsnewid eich busnes a lleihau costau. Gallwch ei ddefnyddio i redeg system ffôn y cwmni cyfan, felly fyddai dim rhaid talu am rent llinell ffôn. Gallwch ei ddefnyddio ar gyfer cynadledda fideo a ffôn, gweld a siarad gyda phobl mewn sawl man gyda sain clir fel crisial a fideo diffiniad uchel. Gallwch rannu data dros rwydweithiau diogel, preifat gyda gweithwyr neu gontractwyr ar wahanol safleoedd, yn y cartref neu'n symudol gan ddefnyddio gliniaduron neu ffonau symudol. Mae hyd yn oed yn bosibl lleoli'ch meddalwedd a chaledwedd yn rhywle arall, fel mai'r cyfan y byddwch ei angen yn eich swyddfeydd yw cyfrifiaduron gyda phorwyr gwe. Mae'r cysylltiad mor gyflym. Mae fel petai popeth ar eich cyfrifiadur, neu ar eich gweinydd yn yr ystafell nesaf. Weithiau, mae hynny'n cael ei alw'n rhithweithio neu gyfrifiadura cwmwl, ac mae llawer o fusnesau eisoes yn gweithio'n fwy effeithlon fel hyn.
Rhowch enghraifft i mi…
Mae Anchor Computer Systems yn creu, yn rheoli ac yn cynnal systemau rheoli meddalwedd yn y sector diwydiannau ariannol. Drwy gysylltu â FibreSpeed, roedden nhw'n gallu gwesteia'r systemau hynny ar eu cyfrifiaduron eu hunain a gadael i gwsmeriaid fynd atyn nhw trwy'r we. Mae Anchor yn gallu dal i gadw rheolaeth o'r gwasanaeth tra'n cael gwared o'r drafferth o gynnal a chadw a diweddaru cwsmeriaid. Mae cael meddalwedd fel gwasanaeth yn lleihau costau sefydlu ac yn galluogi busnes i gael sylfaen hyblyg o gostau. Mae Anchor yn rheoli'r twf ac yn derbyn ffynhonnell gyson o refeniw, yn wahanol i osodiad system unwaith ac am byth sy'n eiddo i'r cwsmer. Mae'n enghraifft o rithweithio neu gyfrifiadura cwmwl, ble mae cwsmeriaid Anchor yn elwa o wasanaethau TG sy'n cael eu rheoli a'u cadw o bell. Mae'r darparydd – Anchor – yn elwa hefyd.
Mi allwn ni wneud hyn i gyd nawr, oni allwn ni?
Gallwn, ond dim ond mor bell y gall band eang cyffredin fynd â chi. O'r blaen roedd Anchor yn prydlesu llinell ar gyfer cynnig y gwasanaeth ‘rhithwir' yma. Drwy ddefnyddio cysylltiad FibreSpeed, dyblodd eu gallu ar unwaith ac, fel bonws, mae'n costio llai na phrydlesu llinell. Gan fod ganddo fwy o le erbyn hyn, mae Anchor yn arbrofi gyda gwasanaeth cadw data symudol ar gyfer nifer o'i gwsmeriaid - gan gael ffynhonnell incwm arall yn y broses.
Pwy arall sy'n cysylltu?
Busnesau o bob maint ac ym mhob sector. Mae Carlton North Wales, asiant rheoli llety moethus i fyfyrwyr, yn llenwi'i neuaddau preswyl oherwydd ei fod yn cynnig Rhyngrwyd cyflym i'r myfyrwyr. Daeth cwmni Avox, sy'n darparu data ariannol, yn fwy cynhyrchiol wrth gasglu data drwy ddefnyddio chwiliadau'r Rhyngrwyd. Mae ymgynghorwyr datblygu ynni West Coast Energy yn anfon ffeiliau data mawr rhwng eu safleoedd yn y DU a chyda phobl yn gweithio yn yr awyr agored ac oddi cartref, mae gweithio o bell yn rhan allweddol o'r busnes. Yn ddiweddar gwnaed y rhwydwaith hwn yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy diolch i gysylltiad FibreSpeed, gan wneud West Coast Energy'n fwy cynhyrchiol ac yn fwy cystadleuol.
Sut ydw i'n cysylltu?
Mae FibreSpeed yn darparu gwasanaethau rhwydwaith trwy nifer o Ddarparwyr Gwasanaeth TG a thelathrebu arbenigol. Mae'r rhain wedi'u rhestru ar wefan FibreSpeed. Bydd y Darparwyr Gwasanaeth hyn yn gweithio gyda chi i asesu a deall eich anghenion ac yn gallu cynnig y gwasanaethau TG a thelathrebu er mwyn i'ch busnes weithion effeithlon ac yn effeithiol. Byddant yn gallu trafod manteision defnyddio rhwydwaith FibreSpeed a'r ffordd orau o gysylltu. Os ydych yn ansicr, cysylltwch â ni a byddwn wrth ein bodd yn eich cynghori ar y dewisiadau.
Beth os nad ydw i'n agos at y rhwydwaith?
Dim problem! Myth yw na allwch gael eich cysylltu â'r rhwydwaith os nad ydych ar un o'r parciau busnes sydd wedi'i gysylltu â FibreSpeed. Mae sawl dewis. Er enghraifft, gallech gael gwasanaeth diwifr. Mae Darparwyr Gwasanaeth FibreSpeed yn cynnig technoleg flaenllaw cysylltu diwifr sy'n gallu cyrraedd ymhell o'r rhwydwaith ffibr, yn aml mewn ardaloedd lle mae'r gwasanaeth gan fand eang llinell ffôn traddodiadol yn wael . A pheidiwch â phoeni – mae'r cysylltiadau hyn yn ddiogel, yn ddibynadwy ac yn gost effeithiol.
Faint mae'n ei gostio?
Mae'n dibynnu ym mhle ydych chi, ar gyflymder y gwasanaeth a sut y byddwch yn cael eich cysylltu. Os mai dim ond cysylltiad Rhyngrwyd syml ydych ei angen, mae prisiau di-wifr yn cymharu â gwasanaethau band eang. Os ydych angen lled band dynodedig neu gysylltiad ffibr uniongyrchol, yna mi fydd yn costio rhagor - ond pa wasanaeth bynnag y byddwch yn ei ddewis, mae FibreSpeed yn gallu nerthu a gwella'ch busnes, gan ei osod yng nghanol yr economi byd eang ac yn rhoi'r pŵer i chi gystadlu.
Onid yw BT, Virgin Media ac eraill yn cynnig yr un peth?
Mae darparwyr eraill yn addo Rhyngrwyd cyflymach ond mae llawer o hynny'n dal i ddibynnu ar y dechnoleg gwifren gopr bresennol. Bydd yn anodd gwella'r dechnoleg hon a dal i gyflenwi'r gofyn. Efallai fod gan ddarparwyr dechnoleg ffibr optig megis FibreSpeed yn sail i'w gwasanaeth ond gallai fod yn nifer o flynyddoedd cyn y bydd yn cyrraedd i bob rhan o Gymru. Hyd yn oed wedyn, gallai'r ‘filltir olaf' at eich drws fod yn dal i ddefnyddio'r dechnoleg gopr bresennol.
Pwy sy'n gweithredu FibreSpeed?
FibreSpeed Ltd sy'n gweithredu'r rhwydwaith gynyddol ar draws Gogledd Cymru. Cydfenter gyhoeddus a phreifat yw FibreSpeed yn cael ei chyllido gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd a Geo Networks Ltd. Nod FibreSpeed yw denu buddsoddi mewnol a chynorthwyo i adfywio economi Cymru.
Beth i'w wneud nesaf
I gysylltu â FibreSpeed, neu i ganfod rhagor, cysylltwch â darparydd gwasanaeth.
Eisiau gwybod sut mae busnesau eraill yn defnyddio FibreSpeed? Darllenwch eich astudiaethau achos cryno.
Cofnodwch ddiddordeb yn nhaflen newyddion FibreSpeed a digwyddiadau'r dyfodol i ganfod mwy am y rhwydwaith a chael sgwrs gyda darparwyr gwasanaeth.





